SL(6)693 – Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Disgowntiau, Diystyriadau ac Esemptiadau) (Cymru) 2026

Cefndir a diben

Mae’r system bresennol o ddisgowntiau, diystyriadau ac esemptiadau sy'n gysylltiedig â'r dreth gyngor wedi'i nodi yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac mewn is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf honno.

Bwriad y Rheoliadau hyn yw i fod yn offeryn cydgrynhoi sy'n ailddatgan ac yn diwygio'r darpariaethau presennol, yn ogystal â gwneud darpariaethau pellach.

Bydd y Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli'r offerynnau statudol canlynol o ran eu cymhwyso i Gymru.

·         Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyriadau Disgownt) 1992;

·         Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992;

·         Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992; a

·         Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 1998.

Mae Rhan 1 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol a darpariaethau dehongli.

 

Mae Rhan 2 yn rhagnodi’r swm o ddisgownt y dreth gyngor mewn perthynas â meddiannaeth a dosbarthau penodol ar anheddau nad ydynt wedi eu meddiannu. Yn benodol maent yn rhagnodi swm disgownt pan fo gan annedd feddiannydd sengl, swm disgownt pan ddiystyrir holl feddianwyr annedd (gweler Rhan 3 ynghylch hynny), a gostyngiadau penodol sy’n gysylltiedig ag anheddau.

 

Mae Rhan 3 yn rhagnodi dosbarthau o bersonau a ddiystyrir at ddibenion disgownt y dreth gyngor o dan Ran 2.

 

Mae Rhan 4 yn rhagnodi eithriadau (ar gyfer rhai dosbarthau o bersonau a ddiystyrir at ddibenion disgownt y dreth gyngor) rhag bod yn atebol am y dreth gyngor ar y cyd ac yn unigol.

 

Mae Rhan 5 yn rhagnodi esemptiadau rhag bod yn atebol i dalu’r dreth gyngor mewn perthynas â dosbarthau penodol ar anheddau.

 

Mae Rhan 6 yn cyflwyno Atodlen 4 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer diwygiadau a dirymiadau canlyniadol.

 

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth bellach ar gyfer anheddau sy’n gysylltiedig â swyddi.

 

Mae Atodlenni 2 a 3 yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â myfyrwyr a sefydliadau addysgol rhagnodedig.

 

Mae Atodlen 4 yn cynnwys diwygiadau a dirymiadau sy’n ganlyniadol ar y Rheoliadau hyn.

 

Gweithdrefn

Cadarnhaol drafft.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y chwe phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae Rheoliad 1(3) yn diffinio “awdurdod bilio” at ddibenion “paragraff (2)” o’r Rheoliadau hyn. Ni ddefnyddir y term hwn ym mharagraff (2). Fodd bynnag, fe'i defnyddir yn y diffiniad “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” yn rheoliad 1(3) ac yn rheoliad 29, Dosbarth A, paragraff (6) a Dosbarth C, paragraff (4). Felly, nid yw'n glir ble y bwriedir i'r diffiniad o “awdurdod bilio” yn rheoliad 1(3) fod yn berthnasol.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 1(3), yn y diffiniad o “awdurdod bilio”, nodir teitl Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn llawn, ond fe’i diffinnir yn rheoliad 2 fel “Deddf 1992” ar gyfer y Rheoliadau hyn. Dylid bod wedi defnyddio hyn yn y diffiniad o “awdurdod bilio” fel y gwnaed yn y diffiniad o “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” yn rheoliad 1(3).

3.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 2, diffinnir “leave to enter or remain” yn Saesneg ar gyfer y Rheoliadau hyn. Fodd bynnag, nid yw'n glir a ddylid diffinio'r term “leave to enter or remain in the United Kingdom” gan mai dyma’r ymadrodd a ddefnyddiwyd drwy gydol y Rheoliadau.  Mae'r diffiniad yn y testun Saesneg hefyd yn wahanol i'r un a geir yn y testun Cymraeg, sef “caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi”.

4.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn.

Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “leave to enter or remain” neu “caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi”, mae gwahaniaeth ystyr rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Mae'r testun Saesneg yn nodi “thought right to allow P”, tra bod y testun Cymraeg yn nodi “credir ei bod yn iawn caniatáu i’r person”. Nid yw'r testun Cymraeg yn defnyddio’r term “P” a ddiffiniwyd yng ngeiriau agoriadol y diffiniad o “caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi”. Mae hyn hefyd yn anghyson â'r darpariaethau eraill yn y diffiniad hwnnw lle defnyddiwyd “P” yn y testun Cymraeg.

5.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn Atodlen 4, ym mharagraff 2(2)(b) i (d), disgrifir y diwygiadau i'r diffiniadau yn rheoliad 1(2) o  Reoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 fel rhai a wneir “fel y mae’n gymwys o ran Cymru”. Nid yw’n glir a oes angen ailadrodd y datganiad hwn oherwydd bod darpariaeth gymhwyso bresennol yn rheoliad 1(4) o'r Rheoliadau hyn. Gellir dadlau hefyd bod y pwerau galluogi eisoes yn cyfyngu ar Weinidogion Cymru fel mai dim ond mewn perthynas â Chymru y bydd unrhyw ddiwygiadau’n berthnasol. Gallai fod yn ddryslyd i ddarllenydd oherwydd bydd hyn hefyd yn wir am y diwygiadau eraill a wneir gan Atodlen 4, er nad ydynt wedi’u nodi'n benodol. Er enghraifft, ym mharagraff 1(4) o Atodlen 4, gwneir diwygiad i hepgor paragraff 1(1)(b)(iii) o Atodlen 1 i Orchymyn y Dreth Gyngor (Diystyriadau Disgownt) 1992. Fodd bynnag, dim ond yn Atodlen 1 y mae'r ddarpariaeth hon yn bodoli “fel y mae’n gymwys o ran Cymru” ond nid yw hyn wedi'i ddatgan yn benodol yn y diwygiad hwnnw. O’r herwydd, mae’n ymddangos bod dull anghyson.

6.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn Atodlen 11, paragraff 4, nid yw'r diwygiadau’n nodi ble mae'r paragraffau i'w cael yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru )2013. Dylid nodi bod y paragraffau i’w cael yn yr Atodlen i Reoliadau 2013. Mae offerynnau diwygio blaenorol wedi cynnwys ymadrodd fel “yn y cynllun a nodir yn yr Atodlen i…” er mwyn nodi’r lleoliad ar gyfer y diwygiad.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â'r offeryn hwn:

7.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae paragraff 2.1 o’r Memorandwm Esboniadol (Materion o ddiddordeb arbennig i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad) yn nodi fel a ganlyn:

2.1 Mae’r offeryn hwn wedi'i lunio heb ddefnyddio’r feddalwedd newydd ar gyfer offerynnau statudol Cymreig. Mae’n bosibl felly y bydd angen gwneud mân welliannau i’r fformadu yn ystod y broses gofrestru os caiff y ddeddfwriaeth hon ei chymeradwyo gan y Senedd a’i gwneud gan Weinidogion Cymru.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â phwyntiau 1-6.

Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
7 Ionawr 2026